Mae cyfreithwyr mewn achos yn yr Uchel Lys i wrthwynebu Brexit, wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain, Theresa May, o ddefnyddio pwerau dan hawlfraint brenhinol, yn anghyfreithlon.

Mae Gina Miller, sy’n fanciwr yn y ganolfan ariannol yn Llundain, yn herio’r broses i ddechrau Brexit.

Mae cyfreithwyr ar ei rhan yn dadlau nad oes gan y Prif Weinidog y grym cyfreithiol i weithredu Erthygl 50 Cytundeb Lisbon heb sêl bendith y Senedd.

Fe gyhoeddodd Theresa May yn ystod y cynhadledd y Blaid Geidwadol fod ei Llywodraeth am ddechrau’r broses cyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesa’.

Fe ymosododd Lord Pannick QC ar benderfyniad y Prif Weinidog ar ran Gina Miller, gan ddweud “fod yr achos yn codi achos o bwysigrwydd sylfaenol ar gyfyngiad pwerau gweithredol.”

Mae cyfreithwyr ar ran y Llywodraeth yn dadlau fod yr refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael ei basio gan y Senedd ac nad oes angen sêl bendith y Senedd o’r herwydd.