Etholiad Cyffredinol 2024 – y pleidleisio

Golwg yn ôl ar ddigwyddiadau diwrnod yr etholiad

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi cyn ac yn ystod yr etholiad dydd Iau (Gorffennaf 4), gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

14:27

Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Ydych chi’n gwybod lle mae eich gorsaf bleidleisio leol? Cliciwch fan hyn i gael gwybod.

13:02

Bydd Huw yn cynnig dadansoddiadau i ni ar noson yr etholiad heno. Dyma sut mae’n ei gweld hi ar drothwy noson fawr i’r holl bleidiau…

Rhun ap Iorwerth yng nghynhadledd Plaid Cymru

Colofn Huw Prys: Etholiad mwy ffafriol na’r disgwyl i Blaid Cymru?

Huw Prys Jones

Wrth i’r Torïaid wynebu chwalfa debygol, beth fydd effaith hyn ar ragolygon y pleidiau eraill yng Nghymru yn yr etholiad ddydd Iau?

11:21

Dyma pryd y gallwn ni ddisgwyl clywed y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru dros nos:

02:00

Bro Morgannwg

Gorllewin Abertawe

02:15

Gŵyr

02:30

Caerffili

Gogledd Clwyd

Gorllewin Casnewydd ac Islwyn

03:00

Alun a Glannau Dyfrdwy

Bangor Aberconwy

Dwyfor Meirionnydd

Dwyrain Casnewydd

Rhondda ac Ogwr

Torfaen

Wrecsam

Ynys Môn

03:15

Caerfyrddin

Llanelli

Merthyr Tudful ac Aberdâr

Pontypridd

04:00

Aberafan Maesteg

Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe

Blaenau Gwent a Rhymni

Canol a De Sir Benfro

Ceredigion Preseli

De Caerdydd a Phenarth

Dwyrain Caerdydd

Dwyrain Clwyd

Pen-y-bont ar Ogwr

04:30

Castell-nedd a Dwyrain Abertawe

Gogledd Caerdydd

Maldwyn a Glyndŵr

Sir Fynwy

04:45

Gorllewin Caerdydd

09:53

Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – a Wanda – wedi bod allan i bleidleisio fore heddiw.

09:48

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bwrw ei bleidlais erbyn hyn. Roedd arweinydd Plaid Cymru yn Neuadd yr Henoed, Llangristiolus. Dyma oedd ganddo i’w ddweud:

09:33

Neges bwysig fan hyn gan Larry’r gath, sy’n byw yn 10 Downing Street. Cofiwch amdano fe, druan, wrth i chi fwrw eich pleidlais…

09:20

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dymuno pob lwc i ymgeiswyr y blaid heddiw.

“Bu’n bleser cael mynd allan a chwrdd â phobol ledled Cymru drwy gydol yr ymgyrch hon, ac rydyn ni bellach yn anelu am adref,” meddai.

“Pob lwc i bawb.”

09:15

Mae Neil McEvoy, ymgeisydd ac arweinydd Propel, yn dweud nad yw taflenni ymgyrchu wedi cael eu dosbarthu’n gywir yn etholaeth Gorllewin Caerdydd.

Mae’r Post Brenhinol wedi methu dosbarthu’r ffurflenni yn Y Tyllgoed, Canton, Caerau, Trelái, Pentre’ Baen a Phont-y-clun, meddai.

“Dw i ddim yn gweld pam ddylwn i, neu Propel, orfod talu’r arian i brintio’r taflenni iddyn nhw beidio cael eu hanfon.”

Neil McEvoy

‘Taflenni ymgyrchu heb eu dosbarthu’n gywir yng Nghaerdydd’

Rhys Owen

Mae’r ymgeisydd Propel Neil McEvoy yn dweud ei fod wedi gwneud “cwyn ffurfiol” i’r Post Brenhinol ynglŷn â’r mater

08:54

“Dim ond twpsyn llwyr fyddai’n proffwydo canlyniadau etholiad ar y diwrnod, gan wybod y bydd y canlyniadau wedi dod cyn i lawer o bobol ddarllen y darogan. Felly, i ffwrdd â ni…”

Dylan a’i broffwydoliaeth

Dylan Iorwerth

Mae pawb ond Llafur yn debyg o fod y tu ôl i Reform UK yn llawer o’r Cymoedd

Bydd Dylan yn un o’n criw o ddadansoddwyr yma ar golwg360 wrth i’r darlun ddechrau dod yn gliriach.

08:43

Tra ein bod ni’n aros i ddod â llun i chi o etholaeth Rhun ap Iorwerth, lle mae Llinos Medi yn sefyll, dyma ddadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol o’r ynys (tu ôl y wal dalu).

Etholiad ’24: Ynys Môn

Rhys Owen

Un o seddi mwyaf diddorol Cymru, lle mae disgwyl ras agos iawn rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Ceidwadwyr