Neil Browning yr arch blyciwr
Bydd llu chwaraewyr gitâr yn hudo i Gaernarfon fis nesaf ar gyfer y gyntaf o ŵyl Gitarau@Galeri.

Bydd yr ŵyl dau ddiwrnod, sy’n cael ei chynnal yn y Galeri, Caernarfon ar 22-24 Chwefror, yn cynnwys gweithdai i gitârs trydan ac acwstig, sesiynau tiwtorial, serminarau a chyngherddau gan rai o chwaraewyr gitâr gorau’r DU.

Bydd gŵyl Gitarau@Galeri, sy’n cael ei chynnal gan Ganolfan Gerdd William Mathias, yn dechrau gyda chyngerdd croeso agored ar nos Wener (22ain Chwefror) yn Bar y Doc, fydd yn cynnwys set unawdol arbennig gan gyfarwyddwr yr ŵyl, Neil Browning.

“Fe ges i’r syniad gwreiddiol tua blwyddyn yn ôl, a’r bwriad yw rhoi cyfle i chwaraewyr gitâr ddod ynghyd a chwarae, dysgu a chyd-chwarae,” meddai Neil, y trefnydd.

“Mae’n gyfle gwych i gyfarod a dod i adnabod chwaraewyr gitâr eraill. Gobeithio y bydd rhai’n cyfarfod chwaraewyr eraill lleol, a bydd sawl perthynas gerddorol newydd yn ffurfio.”

Mae Neil Browning yn diwtor gitâr yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac mae’n dysgu pob math o arddulliau, o glasurol i roc. Mae hefyd yn dysgu’r gitâr drydan i grwpiau gyda phrosiect Sbarc! y Galeri ac mae hefyd wrthi’n ysgrifennu llyfr tiwtor ar unawdau ar y gitâr drydan. Ymhlith y tiwtoriaid fydd yn ymuno gyda Neil yn yr ŵyl gitâr mae Andy Mackenzie, Colin Tommis a John Wheatcroft, sy’n Bennaeth Gitâr yn y Tech Music School yn Llundain.

Ychwanega Neil: “Rwy’n dysgu llawer o chwaraewyr gitâr ifanc a thalentog ac rwy’n eu hannog nhw i fynychu’r ŵyl gan y bydd yn gyfle iddynt weithio gyda thiwtoriaid gwahanol ag arddulliau gwahanol. Mae’r ffordd grêt o gael syniadau newydd a gwella fel chwaraewr.”

Fe fydd y gweithdai grŵp fydd yn cael eu cynnal fore Sadwrn a bore Sul yn gyfle i chwaraewyr gitâr weithio gyda chwaraewyr tebyg, gyda thiwtor i weddu. Yn ystod y prynhawniau fe fydd chwaraewyr yn cael cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd wrth ddewis a dethol yn y gyfres o weithdai byrion. Bydd amrywiaeth o bynciau ar gael gan y prif diwtoriaid, a bydd Arwel Owen yn trafod gosod ac atgyweirio wrth i Dave King ganolbwyntio ar flŵs a llithro acwstig. Bydd modd i fynychwyr ddewis dau weithdy 45 munud o’r chwech sydd ar gael bob prynhawn.

“Dwi wedi bod mewn dipyn o wyliau gwerin yn fy nydd ac mae yna wastad elfen gref o weithdai yn y rheiny, yn enwedig y rhai mwyaf, ac mae’n ffordd wych o ennyn brwdfrydedd, rhannu syniadau a chyfnewid awgrymiadau.

“Mae rhoi cyfle i chwaraewyr ddewis a dethol pa weithdai yr hoffen nhw’u mynychu yn eu galluogi nhw i gael y mwyaf allan o’r ŵyl, a fe allen nhw fynd i’r rhai mae gennyn nhw fwyaf o ddiddordeb ynddynt. Bydd rhai yn eithaf ymarferol; rwy’n gwybod bod Dave King yn edrych ymlaen at ei weithdy o ar flŵs a llithro acwstig ac mae o am ddod ag ychydig o gitarau ychwanegol gydag o er mwyn i bawb allu cymryd rhan.”

Serch hyn, nid gŵyl i chwaraewyr gitâr yn unig yw Gitarau@Galeri. Bydd croeso i bawb yng nghyngerdd cyhoeddus yr ŵyl ar y nos Sadwrn, gyda thriawd enwog Neil Yates, ‘Five Countires’, yn perfformio. Bydd Cyngerdd Mynychwyr yr Ŵyl ar y nos Sul yn gyfle i’r chwaraewyr gitâr gael dangos i bawb beth maent wedi bod yn gwneud yn y gweithdai drwygydol y penwythnos.

Dyddiad cau er mwyn cofrestru ar gyfer yr ŵyl gitarau yw 8 Chwefror 2013. Ni fydd yr ŵyl yn addas ar gyfer rhai sydd newydd ddechrau chwarae gitâr ac mae’n rhaid bod dros 16 oed i fynychu. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Gerdd William Mathias ar 01286 685230 neu ewch i www.cgwm.org.uk.