Dewi Pws
Y canwr a’r actor Dewi Pws yw’r diweddara’ i wrthod cyfrannu i Radio Cymru nes iddyn nhw ddatrys eu anghydfod gyda cherddorion Cymraeg.
Fe ddywedodd y diddanwr wrth Golwg 360 ei fod am wrthod unrhyw wahoddiad i gyfrannu at y gwasanaeth gan ddweud bod cyfansoddwyr Cymraeg yn cael eu trin fel “lleiafrif ethnig” yn eu gwlad eu hunain.
Mae wedi annog cyfranwyr eraill i wneud yr un peth er mwyn cefnogi ymgyrch y corff taliadau newydd, Eos, sy’n mynnu bod rhaid i Radio Cymru dalu rhagor am chwarae caneuon Cymraeg.
Mae nifer o dimau Talwrn y Beirdd, gan gynnwys tîm gyda Dewi Pws ynddo, wedi dweud na fyddan nhw’n cymryd rhan yn y gyfres honno nes daw’r anghydfod i ben.
Y ddadl
Maen nhw’n mynnu bod cytundeb rhwng y BBC a’r corff taliadau Prydeinig, y PRS, yn gwahaniaethu’n annheg yn erbyn cyfansoddwyr Cymraeg.
Mae mwy na 300 o aelodau Eos yn gwrthod caniatâd i Radio Cymru chwarae eu caneuon gan olygu fod yr orsaf wedi gorfod cwtogi oriau darlledu a throi at gerddoriaeth arall.
Dadl y BBC a’r PRS yw fod y taliadau’n cyfateb i faint cynulleidfa Radio Cymru.
Sylwadau Dewi Pws
Roedd Dewi Pws hefyd yn beirniadu Radio Cymru am ddefnyddio recordiau Saesneg i lenwi’r bwlch.
“Dw i wedi gwrthod cymryd rhan ar Radio Cymru o’r blaen oherwydd eu bod yn chwarae caneuon Saesneg,” meddai. “Mae’n siom eu gweld nhw’n gwneud yr un peth eto.
“Mae yna filiynau o recordiau ar gael mewn ieithoedd eraill – dyw hi ddim fel pe bai dim dewis arall.”
“Mae’r PRS yn ein bychanu ni. Mae’r taliadau’n llawer llai ar Radio Cymru nag ar orsaf fel yr Asian Network. R’yn ni’n cael ein trin fel lleiafrif ethnig yn ein gwlad ein hunain.”