Llun gwneud o un o'r dynion
Mae’r heddlu ym Mhorthcawl yn cynnal ymchwiliad yn dilyn lladrad ac ymosodiad ar ddynes mewn bwyty yn y dref ar Ddydd Calan.

Fe ddigwyddodd tua 3yb yn y Blue Lounge Steakhouse ar ôl i ddau ddyn gael eu darganfod yn y bwyty. Roedd un o’r dynion wedi ymosod ar ddynes 44 oed gan anafu ei hwyneb gyda photel.

Mae ditectifs wedi cyhoeddi disgrifiad o’r ddau ddyn ac yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a allai fod wedi eu gweld yn rhedeg o’r bwyty.

Mae un yn cael ei ddisgrifio fel dyn croenwyn, tua 5’6” o daldra, gyda gwallt byr, brown. Roedd yn gwisgo jîns tywyll a chrys t tywyll. Roedd yn ei arddegau hwyr neu ugeiniau cynnar.

Roedd yr ail ddyn hefyd yn groenwyn, tua 6’ neu 6’2” o daldra, gyda gwallt brown a tua’r un oed a’r dyn arall. Roedd yn gwisgo trowsus brown golau a chrys t gyda logo arno.

Dywedodd y Ditectif Paul Mason bod yr ymosodiad yn un “difrifol iawn” a bod y ddynes wedi gorfod cael triniaeth i’w hwyneb yn dilyn yr ymosodiad.

Roedd nifer o bobl tu allan i fwyty tec awe ar y pryd, meddai ac mae’n apelio ar lygad dystion i gysylltu â nhw ar 01656 679518 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.