Protestiadau yn India
Yn India mae pump o ddynion wedi cael eu cyhuddo o dreisio, cipio a llofruddio myfyrwraig 23 oed ar fws yn New Delhi.

Cafodd chwech o ddynion eu harestio yn dilyn yr ymosodiad. Fe fydd achos llanc 17 oed yn cael ei gynnal mewn llys ieuenctid.  Mae’r pump arall yn wynebu’r  gosb eithaf os ydyn nhw’n cael eu dedfrydu’n euog.

Maen nhw’n cynnwys gyrrwr y bws, Ram Singh, 33; ei frawd Mukesh Singh, 26, sy’n glanhau bysys i’r un cwmni; Pavan Gupta, 19, gwerthwr ffrwythau; Akshay Singh, 24, glanhawr bysys; a Vinay Sharma, 20, hyfforddwr ffitrwydd. Nid oeddan nhw wedi ymddangos yn y llys heddiw.

Mae disgwyl i’r achos gael ei gynnal ddydd Sadwrn.

Mae’r ymosodiad ar y ddynes ar 16 Rhagfyr, fu farw o’i hanafiadau yn ddiweddarach, wedi cythruddo pobl ar draws India gyda galwadau am reolau llymach i dreiswyr, gwell diogelwch i ferched gan yr heddlu, ac ymgyrch i newid agweddau cymdeithas tuag at ferched.

Mae protestiadau wedi eu cynnal bron yn ddyddiol  gyda miloedd yn gorymdeithio drwy New Delhi.