April Jones
Fe fydd Heddlu Dyfed Powys yn cynnal cynhadledd newyddion bore ma i roi diweddariad am y gwaith o chwilio am April Jones a ddiflannodd o’i chartref ym Machynlleth ddeg wythnos yn ôl.
Mae disgwyl i’r Arolygydd Ian John hefyd ddarllen datganiad gan rieni’r ferch fach 5 oed, Paul a Coral Jones.
Cafodd April ei gweld y tro diwethaf y tu allan i’w chartref ym Machynlleth ar 1 Hydref.
Mae Mark Bridger, 47 wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, cipio plentyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe fydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yng nghanolfan hamdden Machynlleth am 11yb.