Mae un o Gomisiynwyr yr Heddlu yng Nghymru wedi beirniadu David Cameron am wrthod argymhellion i sefydlu Comisiwn Brenhinol ar gyffuriau.

Mynnodd David Cameron fod y polisiau presennol ar daclo cyffuriau angyfreithlon yn “gweithio” ac nad oes angen dad-droseddoli rhai cyffuriau, sef un o gynigion Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin.

Ond mae Comisiynydd Heddlu De Cymru, Alun Michael, wedi galw ar David Cameron i ail-ystyried.

“Mae cael Gweinidogion yn gwrthod argymhellion sy’n ganlyniad i ymchwiliad trawsbleidiol, blwyddyn-o-hyd, gan Aelodau Seneddol o’r tair prif blaid, a hynny cyn bod eu canfyddiadau wedi cael eu hystyried yn llwyr, yn rhyfedd iawn,” meddai Alun Michael, a fu’n aelod o’r pwyllgor tan iddo ymddiswyddo fel Aelod Seneddol er mwyn sefyll yn etholiadau’r comisiynwyr eleni.

“Nid dadl am gyfreithloni cyffuriau yw hwn – ymyrraeth yw hynna,” meddai Alun Michael, sy’n annog y Llywodraeth yn San Steffan i edrych ar ffyrdd rhyngwladol o ddelio gyda’r fasnach a’r defnydd o gyffuriau.

“Rhaid edrych ar y gwersi a gafodd eu dysgu ym Mhortiwgal, ble mae pobol sy’n cael eu harestio gyda chyffuriau yn cael cynnig cymorth i ddod oddi ar gyffuriau yn hytrach na mynd trwy’r system gyfiawnder,” meddai Alun Michael.

Dywedodd Alun Michael fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i wneud mwy i daclo cyffuriau ond bod ymdrechion lleol yn rhan o gyd-destun rhyngwladol.

“Dyna pam mae’n gymwys fod y Pwyllgor wedi gofyn am Gomisiwn Brenhinol i ddod o hyd i atebion a ffordd integredig o fewn dwy flynedd,” meddai Alun Michael.