Llifogydd Rhostryfan
Mae nifer o bobol pentre’n y gogledd yn dweud mai Cyngor Gwynedd oedd ar fai am lifogydd yno wythnos yn ôl.

Roedd y cyngor sir wedi gosod rhwyll anaddas o dan y bont yng nghanol pentref Rhostryfan, gan ddargyfeirio’r dŵr at y tai, yn ôl y pentrefwyr.

“Ymhell ar ôl i’r glaw beidio tua pedwar o’r gloch y p’nawn, roedd y dŵr yn dal i raeadru dros y bont a gardd y tŷ gyferbyn â mi, ac i lawr y ffordd o flaen fy nhŷ, er bod y llifogydd wedi peidio yn uwch i fyny,” meddai un o’r pentrefwyr.

Tua pump yr hwyr, fe godwyd y rhwyll ger y bont gan jac-codi-baw ac fe stopiodd y llif ymhen rhai munudau, meddai.

“Mae hi’n gwbl amlwg mai’r rhwyll -a osodwyd yn ei lle gan y Cyngor tua chwech wythnos yn ôl, yn ôl pob tebyg – oedd ar fai. Roedd cerrig a ffrwcs wedi cael eu dal ganddi, gan beri i’r dŵr godi dros y bont, yn hytrach na mynd oddi tani. Roedd afon yn llifo o flaen fy nhŷ, yn hytrach nag i lawr yr afon go iawn y tu ôl iddo!

“Nid llifogydd naturiol oedden nhw mewn ffordd, ond afon fach o dan bwysau glaw mawr yn cael ei dargyfeirio gan rwystr a osodwyd gan ddyn. Mi ddylai’r Cyngor hawlio cyfrifoldeb, mae arna i ofn.”

Ymateb Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi bod yn archwilio’r difrod ger y bont.

“Mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn parhau i ddelio gyda’r difrod sylweddol yn sgil y tywydd eithafol dros y dyddiau diwethaf,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor Sir. “Fel rhan o’r ymateb, mae’n timau wedi bod yn gweithio’n ddiflino i glirio a chynorthwyo aelodau’r cyhoedd sydd wedi eu heffeithio yn uniongyrchol gan gynnwys preswylwyr yn ardal Rhostryfan.

“Rydym yn ymwybodol fod rhai o drigolion Rhostryfan wedi mynegi pryderon am y rhwydwaith ceuffosydd. Fel rhan o’r gwaith adfer, byddwn yn adolygu pob agwedd o ymateb y Cyngor gan gynnwys gallu’r rhwydwaith ceuffosydd i wrthsefyll y lefel sylweddol iawn o law a ddisgynnodd o fewn ychydig o oriau ar ddydd Iau, 22 Tachwedd.”