Bu’n rhaid achub tri o blant o Ysgol Gynradd Dolbadarn yn Llanberis neithiwr.
Oherwydd y dŵr uchel bu’n rhaid I ddynion tân hebrwng y plant o’r ysgol mewn cwch.
Yn ôl llefarydd y Gwasanaeth Tân fe wnaethon nhw dderbyn 250 o alwadau ac maen nhw’n erfyn ar bobol I’w ffonio “os ydych yn teimlo fod bywydau yn y fantol ac nid dim ond pan mae eiddo a thai yn cael eu gorchuddio dan ddŵr ac mae’r perchnogion yn medru symud I fyny’r grisiau neu’n medru cael lloches gan gymdogion.”.
Y gwynt cryfaf ym Mhrydain
A bu’r gwynt ar ei gryfaf drwy Brydain yng Nghapel Curig neithiwr, yn mesur 86 milltir yr awr yn ôl Swyddfa’r Met.