Mae cwmni dur Tata wedi cyhoeddi y bydd 500 o weithwyr yn colli eu swyddi yn eu gweithfeydd ym Mhort Talbot. Bydd y cwmni hefyd yn cau eu safleoedd yn Nhafarnau-bach ger Tredegar ac yn Cross Keys ger Caerffili gan arwain at golli 154 o swyddi pellach.

Dywed y cwmni eu bod nhw wedi penderfynu ail-strwythuro eu gwaith nhw ym Mhrydain er mwyn “cynyddu ein gallu i gystadlu mewn marchnadoedd sy’n newid”.

Fel rhan o’r newid bydd gwaith yn cael ei drosglwyddo i Shotton yn Sir y Fflint, gan greu 38 o swyddi, a dywed y cwmni eu bod nhw dal yn bwriadu ail-danio ffwrnais rhif pedwar ym Mhort Talbot yn nechrau 2013, sy’n rhan o fuddsoddiad gwerth £250m. Bydd y cwmni hefyd yn ail-ddechrau melin ddur yn Llanwern yn ystod 2013.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y newydd am golli swyddi yn “ergyd enfawr.”

“Mae penderfyniad Tata yn adlewyrchu’r heriau difrifol sy’n wynebu diwydiannau cynhyrchu yn ystod yr amseroedd economaidd anodd hyn,” meddai llefarydd.

Dywed Llywodraeth Cymru fod costau ynni uchel ac “ansicrwydd” polisi ynni Llywodraeth Prydain yn cael effaith ar benderfyniadau buddsoddi busnesau. Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Prydain i ddiogolledi diwydiannau sy’n drwm iawn ar ynni ac sy’n gorfod cydymffurfio gyda pholisïau ynni a newid hinsawdd.

Pennaeth yn ‘edifar’

Dywedodd pennaeth Tata Steel Europe, Karl Köhler, y bydd y “cynigion ail-strwythuro hyn yn helpu i wneud ein busnes yn fwy llwyddiannus a chynaladwy, ond rydym yn edifar am y colli swyddi ac rwy’n gwybod y bydd hi’n amser anodd ac ansicr i weithwyr a’u teuluoedd.”

“Byddwn yn gweithio gyda’r undebau llafur a’r llywodraeth ar lefel genedlaethol a lleol i sicrhau ein bod ni’n eu darparu nhw gyda chymaint o gymorth a chefnogaeth â phosib,” meddai.

Mae Tata yn cael gwared ar 900 o swyddi ym Mhrydain, gyda 300 o swyddi yn diflannu yn Lloegr yn Swydd Efrog, y West Midlands a Glannau Tee ger Middlesbrough.

Yn dilyn ei gyfarfod gyda phenaethiaid Tata yn India ym mis Ebrill cyhoeddodd Carwyn Jones fod y cwmni am fuddsoddi £800m yng Nghymru, ond dros yr haf rhybuddiodd Tata y byddai’n gohirio cynnau ffwrnais newydd ym Mhort Talbot os na fyddai digon o alw am ddur.