Mae dau lanc wedi cael eu holi ar amheuaeth o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dynes o Wrecsam a gafodd ei tharo’n wael ar ôl i’w char gael ei roi ar dân.

Bu farw Gillian Dudley Smith yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar ôl dioddef strôc. Cafodd ei tharo’n wael ar ôl i’w char Ford Fiesta coch gael ei roi ar dân tu allan i’w chartref yn yr Orchards, Hightown yn Wrecsam yn oriau mân  bore dydd Mawrth, 13 Tachwedd.

Mae’r ddau lanc wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad Heddlu’r Gogledd yn parhau.

Mae’r Prif Arolygydd Alex Goss wedi apelio unwaith eto am dystion. Dylai unrhyw un  sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r Gogledd ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111.