Lee-Anna Shiers
Roedd hyd at 300 o bobl wedi dod ynghyd ar gyfer gwasanaeth coffa cyhoeddus bore ma i gofio am bump o bobl a fu farw mewn tân ym Mhrestatyn fis diwetha’.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20; ei mab Charlie, 15 mis oed; a’i nai Bailey Allen, 4, a’i nith Skye, 2, mewn tân mewn fflat ym Maes y Groes yn y dref ar 19 Hydref.

Bu farw partner Lee-Anna Shiers, Liam Timbrell, wythnos ddiwethaf – roedd  wedi bod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Glenfield yng Nghaerlŷr.

Ddoe, cafodd angladdau preifat i’r pump eu cynnal ym Mae Colwyn.

Cafodd y gwasanaeth coffa ei gynnal yn Eglwys Prestatyn.

Cyhuddo o bumed llofruddiaeth

Ddoe fe gyhoeddwyd bod Melanie Smith, 42 oed, o Brestatyn wedi ei chyhuddo o bumed llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Liam Timbrell wythnos ddiwethaf.

Roedd hi eisoes wedi ei chyhuddo o bedwar cyhuddiad o lofruddiaeth, o gynnau tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd, ac o fygwth achosi difrod troseddol.

Mae’n cael ei chadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron llys ym mis Ionawr.