Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi galw ar ei phlaid i fabwysiadu’r hyn mae’n ei alw yn ‘Maniffesto-Wici’ er mwyn ymgorffori syniadau gan bobl o bob cwr o Gymru ynglŷn â sut i fynd ati i drawsnewid y wlad.

Dywedodd hefyd ei bod o blaid ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17oed yng Nghymru, fel sydd wedi cael ei gynnig yn yr Alban gan blaid yr SNP.

Dywedodd y dylid meithrin math newydd o wleidyddiaeth sydd yn “greadigol, cymdeithasol a lleol” er mwyn goresgyn y difrawder ymysg pleidleiswyr sy’n llethu democratiaeth yng Nghymru, y DG a thu hwnt.

Cyn yr etholiadau am gomisiynwyr heddlu’r wythnos hon, lle mae llawer yn rhagweld y bydd nifer brawychus o isel o bobl yn pleidleisio, bydd Leanne Wood yn dweud wrth gynulleidfa mewn darlith ym Mhrifysgol Aberystwyth heno (nos Lun) ei bod yn bryd cymryd agwedd gyfranogol tuag at wleidyddiaeth.

Bu hyn yn llwyddiant yn rhannau eraill o’r byd, meddai.

“Rydym yn sownd yn y 19eg ganrif yng Nghymru trwy wahodd pobl i fynegi eu hunain unwaith bob pum mlynedd yn unig drwy ddefnyddio’r technolegau hynod gyfoes hynny – papur, pensel, llen a bwth pren, neu stamp os mai pleidleisio drwy’r post yr ydych,” meddai.

“Mae arnom angen agor ‘cod ffynhonnell’ y broses o ddatblygu polisi – am nad gwleidyddion yw’r unig rai sy’n cael syniadau da. Dylai paneli gwydr y Senedd wneud mwy na gwella tryloywder – dylent hefyd ganiatáu i syniadau ddod i mewn o’r tu allan.

‘Arwain trwy esiampl’

“Rwyf eisiau i Blaid Cymru arwain trwy esiampl a chreu maniffesto-wici cyntaf y byd; maniffesto wedi ei greu ar y cyd gan bobl Cymru, i bobl Cymru.

“Bydd y syniad hwn yn caniatáu i bawb gynnig syniadau, dadlau a thrafod. Bydd y syniadau hynny yn cyrraedd uchafbwynt mewn cynhadledd arbennig o aelodau’r blaid a hyrwyddwr polisi, lle bydd cynnyrch ein creadigrwydd cenedlaethol yn cael ei gadarnhau fel rhaglen Plaid Cymru ar gyfer etholiadau 2016.

“Bu America Ladin yn arloesol iawn yn y maes hwn. Er enghraifft, mae llywodraeth Mecsico wedi derbyn awgrymiadau ‘gan y dorf’ o blith y cyhoedd, gan ofyn iddynt nodi’r drefn fiwrocrataidd fwyaf diwerth y dylid ei dileu.

“Ac y mae gan lywodraeth Chile safle ar-lein sy’n caniatáu i ddinasyddion cyffredin wneud sylwadau ac awgrymu newidiadau i fesurau wrth iddynt basio drwy’r Senedd.”

Dywedodd Leanne Wood y dylid ymdrechu’n galed i wneud i bobl ifanc ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.

“Fe ddylid cael pwyslais ar annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth oherwydd bydd llawer o’r penderfyniadau a gymerir yn awr yn cael effaith fawr ar eu dyfodol,” meddai Ms Wood.

“Rwyf i o blaid yr hyn wnaeth Llywodraeth yr SNP yn yr Alban trwy ymestyn y bleidlais i rai 16 ac 17 oed yn y refferendwm a gynhelir ar annibyniaeth i’r Alban. Mae gan bobl ifanc sydd ar fin dod yn oedolion gyfran yn y dyfodol, felly fe ddylen nhw gael llais yn y ffordd y rhedir eu gwlad.

“Gydag ymestyn y bleidlais i rai 16 ac 17 oed yng Nghymru, byddai’n rhaid cael rhaglen addysg fel y gallai pobl yn eu harddegau ddod i benderfyniad deallus wrth fwrw pleidlais.”