Mae gweinidog ynni’r Ceidwadwyr wedi beirniadu nifer y ffermydd gwynt sydd wedi codi yng nghefn gwlad gan fynnu: “Digon yw digon.”
Dywedodd John Hayes bod y cynnydd yn nifer y tyrbinau gwynt yn “anhygoel” ac na ddylen nhw gael eu “gorfodi ar gymunedau” o hyn ymlaen.
Fe ddatgelodd ei fod wedi gorchymyn astudiaeth newydd i edrych ar ynni gwynt ar y tir a’u heffaith ar y gymuned leol.
Mae ei sylwadau dadleuol yn sicr o ddwyshau’r tensiwn o fewn y Llywodraeth Glymblaid.
Fe fydd ei gyhoeddiad yn plesio dwsinau o Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd wedi bod yn annog David Cameron i atal adeiladu rhagor o ffermydd gwynt ar y tir, ond yn cythruddo’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Cafodd John Hayes ei benodi i’r swydd fis diwethaf ac mae’n debyg ei fod o blaid moratoriwm ar ffermydd gwynt newydd ar y tir. Fe wnaeth ei sylwadau yn y Daily Mail a’r Daily Telegraph.
Mae John Hayes yn mynnu mai dim ond canran fechan o’r ceisiadau am dyrbinau gwynt sydd eu hangen i gwrdd â thargedau “gwyrdd” y Llywodraeth erbyn 2020.
Dywedodd bod effaith ffermydd gwynt ar eu hamgylchedd wedi cael ei “anwybyddu” a bod yn rhaid i ynni adnewyddadwy gael “cefnogaeth lawn y gymuned.”
Mae disgwyl i 4,000 o dyrbinau gwynt gael eu hadeiladu ar draws y DU yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan eu bod yn cefnogi cymysgedd o ynni adnewyddadwy, niwclear a nwy er mwyn cwrdd â gofynion ynni’r DU.
Deiseb
Yn gynharach y mis hwn, cafodd deiseb gyda mwy na 1,300 o enwau arni ei chyflwyno i’r Cynulliad, yn galw am atal datblygu ffermydd gwynt a thyrbinau am gyfnod ac am gynnal refferendwm lleol ar bob tyrbin newydd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r deisebwyr eisiau i bwyllgor o bob plaid ystyried effeithiau tyrbinau gwynt ar iechyd, cymdeithas a’r economi o fewn pellter o 15km.
Y nod fyddai cael ymchwil annibynnol ynglŷn â’r maes er mwyn gosod safonau ar gyfer y diwydiant, a’r rheiny’n “blaenoriaethu gofalu am yr amgylchedd lleol, tir amwynderau, cynefinoedd a natur.”
Yn ôl y ddeiseb, fe ddylai refferendwm gael ei gynnal ymhlith pobol sydd o fewn 5km i bob safle tyrbin.
Mae’r ddeiseb yn ymwneud â’r math o ddatblygiad cymharol fach sydd dan reolaeth Llywodraeth Cymru – heb effeithio ar y cynlluniau mawr tros 50MW sydd dan adain y Gyfarwyddiaeth Seilwaith Cenedlaethol.
Roedd y rhan fwya’ o’r llofnodion ar y ddeiseb yn dod o ardaloedd ble mae ffermydd gwynt yn bwnc llosg – Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a Maldwyn.