Llanwrtyd
Mae trigolion nifer o dai ar Ffordd Llanymyddyfri yn Llanwrtyd ym  Mhowys yn gorfod gadael eu cartefi y prynhawn yma am fod nwy yn gollwng o dancer mewn depo yno.

Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae’r tancer yn gollwng llawer iawn o nwy ac mae nhw wedi ynysu’r ardal o fewn 800 medr i’r depo.

Mae dwy injan dân a thaflwr dwr yno ynghyd â’r heddlu a nifer o asiantaethau amgylcheddol eraill.

Mae arbenigwyr o Asiantaeth yr Amgylchedd yno i gynghori’r diffoddwyr ond yn ôl yr asiantaeth mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un diogelwch.