Mae Jason Clowes yn credu ei fod wedi ei gysylltu ar gam a'r digwyddiad am ei fod yn gyrru fan wen ac yn byw yn Nhrelai
Mae bygythiadau wedi cael eu gwneud yn erbyn dyn gafodd ei enwi ar gam fel gyrrwr y fan oedd wedi taro 14 o bobl yng Nghaerdydd wythnos ddiwethaf.

Fe gyhoeddwyd enw Jason Clowes, 32, ar Facebook a Twitter yn dilyn y digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd Gwener ddiwethaf.

Roedd y tad i ddau o blant yn pysgota gyda’i ffrind pan glywodd fod ei enw yn cael ei gysylltu gyda’r digwyddiad.

Bu farw Karina Menzies yn y gyflafan yn ardal Trelai a Lecwydd. Roedd hi’n un o 14 o bobl – 7 ohonyn nhw’n blant – a gafodd eu taro gan y fan. Honnir bod y fan wedi gyrru ar y pafin gan dargedu rhieni a’u plant oedd yn dychwelyd o’r ysgol.

Mae teulu Jason Clowes yn credu ei fod wedi ei gysylltu â’r digwyddiad am ei fod yn gyrru fan wen ac yn byw yn Nhrelai.

Roedd rhai wedi bygwth llofruddio ei blant, meddai Jason Clowes  wrth Media Wales heddiw.

Dywedodd Jason Clowes ei fod yn gwybod pwy oedd wedi cyhoeddi ei enw ar-lein ac mae wedi diolch i’r gymuned am agor tudalen Facebook yn ymddiheuro am y camgymeriad.

Roedd Matthew Tvrdon, 32, wedi ymddangos yn y llys yr wythnos hon ar gyhuddiad o lofruddio, ac  13 cyhuddiad o geisio llofruddio.

Cafodd Tvrdon ei gadw yn y ddalfa tan fis Ionawr.