Mae’r heddlu wedi enwi’r ddynes a’r ddau blentyn a fu farw mewn tân mewn fflat ym Maes y Groes, Prestatyn nos Wener.

Roedd Lee-Anna Shiers yn 20 oed. Bu farw ei nai Bailey Allen, oedd yn bedair oed, hefyd a’i chwaer ddyflwydd, Skye.

Mae dyn 45 oed a dynes 42 oed sy’n byw yn y fflat o dan y fflat lle ddigwyddodd y tân wedi cael eu harestio ynglŷn â’r digwyddiad.

Mae Charlie, mab 15 mis oed Lee-Anna Shiers, yn ddifrifol wael yn Ysbyty Blant Alder Hey yn Lerpwl, ac mae ei phartner Liam Timbrell, sy’n 23 oed, mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Whiston, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd yr heddlu fod y tân wedi bod yn un ffyrnig a’u bod nhw’n cynnal ymchwiliad manwl i’r digwyddiad.