Cafodd dau o bobol eu lladd a saith eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng dwy lori a thri char yn nyffryn Tywi.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r A40 rhwng Dryslwyn a Derwen Fawr am 4.25 brynhawn ddoe, a bu’n rhaid torri pobol allan o gerbydau gydag offer pwrpasol.

Cafodd yr heol, sy’n cysylltu Caerfyrddin a Llandeilo, ei chau neithiwr ond mae bellach wedi agor.