Catherine Gowing
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn diflaniad dynes 38 oed ddydd Gwener ddiwethaf.
Cafodd Catherine Gowing, ei gweld y tro diwethaf gan ei ffrindiau yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint am 8pm nos Wener, 12 Hydref.
Mae Catherine yn 5’10” o daldra, yn eithaf tenau ac mae hi’n siarad ag acen Wyddelig.
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a allai fod wedi gweld Catherine Gowing ac maen nhw’n awyddus iawn i ddod o hyd i’w char, Renault Clio porffor gyda rhif cofrestru Gwyddelig – 00D99970.
Gellir cysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111