Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn 19 oed wedi cael ei garcharu am oes heddiw am lofruddio garddwr 63 oed yng Nghaerdydd.
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw cafodd Bleddyn King o Abercynon, ei ddedfrydu i isafswm o 28 mlynedd dan glo am lofruddio David Evans yn ei gartref ym Mhentyrch ym mis Ionawr y llynedd.
Roedd King wedi ei drywanu dros 70 o weithiau a’i guro i farwolaeth.
Wrth ei ddedfrydu fe rybuddiodd y barnwr Mr Ustus MacDuff bod ’na bosibilrwydd na fyddai King fyth yn cael ei ryddhau o’r carchar.
Ni fydd yn cael gwneud cais am barôl nes 2040, a hyd yn oed wedyn does dim sicrwydd y bydd yn cael ei ryddhau, meddai’r barnwr.
“Rydych yn ddyn drwg a pheryglus,” meddai wrth King.
Clywodd y llys bod King wedi targedu David Evans am ei fod yn ddyn oedrannus oedd yn byw ar ei ben ei hun. Ar ôl ei lofruddio fe aeth ati i ddwyn o’r byngalo yng Nghefn Bychan er mwyn gwerthu’r eitemau i ddatrys ei broblemau ariannol.
Ar ôl hynny, fe wnaeth recordio ei hun yn ymosod unwaith eto ar gorff David Evans, cyn ceisio rhoi’r byngalo ar dân.
Yn dilyn y dyfarniad dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Ceri Hughes fod David Evans yn uchel ei barch yn y gymuned ond fe rybuddiodd am y peryglon o gwrdd â dieithriaid dros y rhyngrwyd. Mae’n debyg mai dyna sut yr oedd David Evans wedi cwrdd â King.