Jessica, Tomas, Eva a David Palacin Jones gyda'u chwaer Sarah, sy ddim ar goll
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi lansio apel i ddod o hyd i bedwar o blant o Lanelli sydd ar goll.

Credir bod Jessica, Tomas, Eva a David Palacin Jones gyda’u mam, Jennifer Jones.

Dywedodd Mr Ustus Roderic Wood bod y plant – sydd rhwng 8 ac 14 oed – wedi diflannu o gartref Jennifer Jones yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, a bod yn “rhaid dod o hyd iddyn nhw.”

Dywedodd y barnwr bod y plant yng nghanol anghydfod rhwng Jennifer Jones a’i gwr Tomas Palacin Cambra sy’n dod o Sbaen.

Yn ôl Mr Ustus Roderic Wood roedd y plant wedi bod yn aros gyda’u mam ond roedden nhw i fod i ddychwelyd at eu tad yn Majorca yn Sbaen.

“Rydw i’n bryderus iawn ynglŷn â’r plant,” meddai’r barnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw.

“Mae’n rhaid dod o hyd iddyn nhw. Os oes unrhyw un yn gwybod lle maen nhw neu wedi eu gweld yna fe ddylen nhw gysylltu â’r llys neu’r heddlu lleol.”

Mae’r barnwr wedi caniatáu i enwau’r plant a lluniau ohonyn nhw i gael eu cyhoeddi.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran Tomas Palacin Cambra, 52, bod Jennifer Jones, 46, yn athrawes Saesneg ail iaith a chredir ei bod gyda’i phartner John Williams.

Mae gan Jennifer Jones deulu yn ardal Abertawe ac fe allai’r grŵp fod mewn porthladd neu faes awyr.  Mae hi’n siarad gydag acen Gymraeg, yn denau, tua 5’7” o daldra, gyda gwallt golau a llygaid brown.