Fe fydd un lôn ar gau ar heol brysur yn Aberystwyth o 4yh prynhawn ma am fod nwy yn gollwng yn yr ardal.

Mae peirianwyr yn trwsio’r broblem rhwng croesfan y rheilffordd, ger Llanbadarn, a chylchdro Morrisons ym Mharc y Llyn.

Dyma’r brif ffordd ar gyfer gyrwyr sy’n teithio rhwng y de-orllewin a’r gogledd, a bydd disgwyl i deithwyr fynd i ganol Aberystwyth er mwyn osgoi’r heol.