Eric Driver
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth i geisio dod o hyd i ddyn 46 oed o Gaergybi sydd wedi bod ar goll ers bron i wythnos.

Cafodd Eric Owen Driver, ei weld y tro diwethaf yn Llain Cyttir, Kingsland, Caergybi am 1pm, ar 5 Hydref.

Mae Eric Driver yn ddyn gwyn, 5 troedfedd 10 modfedd ac o faint corff canolig.

Mae ganddo wallt byr wedi britho ac mae’n gwisgo sbectol. Credir ei fod yn gwisgo siaced felen lachar, jîns glas ac esgidiau trwm brown.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn bryderus am les Eric Driver ac yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth amdano i gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101.