Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth dyn 60 oed yng Nghasnewydd ddoe.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Stryd Ailsbury, Casnewydd tua 2.20pm brynhawn dydd Mawrth lle cafwyd hyd i gorff y dyn.
Dywed yr heddlu bod ei farwolaeth yn “anesboniadwy” ar hyn o bryd a’u bod ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod sut y bu farw.