Ched Evans
Mae dau o bobl wedi cael eu cyhuddo o gyhoeddi  enw’r ferch gafodd ei threisio gan y pêl-droediwr Ched Evans mewn sylwadau ar-lein, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw.

Mae Dominic Green, 23, o’r Rhyl ac Alexandra Hewitt, 24, o Frychdyn wedi eu cyhuddo o gyhoeddi deunydd a allai arwain at adnabod y ferch gafodd ei threisio.

Dyma’r cyhuddiadau cyntaf i gael eu gwneud ers i’r heddlu arestio nifer o bobl ar ôl i achos Ched Evans ddod i ben ym mis Ebrill.

Mae Green a Hewitt wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n mynd o flaen Llys Ynadon Prestatyn ar 5 Tachwedd.

Cafodd Ched Evans, 23, ei garcharu am bum mlynedd am dreisio’r ferch 19 oed mewn gwesty ger y Rhyl.