April Jones
Mae dyn ifanc sydd wedi ei gyhuddo o wneud sylwadau “ffiaidd” am achos April Jones ar wefan gymdeithasol wedi cael ei garcharu am dri mis.

Roedd  Matthew Woods, 19 oed, o Chorley yn Lancashire wedi gwneud nifer o sylwadau am y ferch 5 oed, sydd ar goll ym Machynlleth, ar y wefan gymdeithasol, Facebook.

Roedd Woods hefyd wedi gwneud sylwadau am Madeleine McCann, y ferch fach arall aeth ar goll yn ystod gwyliau  ym Mhortiwgal.

Cafodd Woods ei arestio nos Sadwrn a’i gadw yn y ddalfa cyn ymddangos gerbron Llys Ynadon Chorley heddiw lle’r oedd wedi pledio’n euog o anfon negeseuon “enbyd o ffiaidd”.

Dywedodd cadeirydd y fainc, Bill Hudson bod sylwadau Woods mor “ffiaidd” fel ei fod yn haeddu’r ddedfryd hiraf posib ar gyfer trosedd o’r fath, ond ei fod wedi rhoi dedfryd ychydig yn llai iddo am ei fod wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad.

Dywedodd mai dim ond dedfryd mewn canolfan i droseddwyr ifainc fyddai’n addas er mwyn dangos difrifoldeb y drosedd.