Gremlin
Mae criw o anarchwyr wedi meddiannu hen sinema Spin ar Heol y Ddinas yng Nghaerdydd. Eu gobaith yw y bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan am ddim i’r gymuned lle y gall pobl fynd i ddysgu sgiliau a chymdeithasu.
Mae’r Gremlins – fel y maen nhw’n galw eu hunain – yn dweud bod yr heddlu a’r beilïaid wedi ceisio, a methu, eu gorfodi nhw i adael ddoe.
“Ar ôl i’r heddlu adael am tua hanner awr wedi tri mi wnaethon ni roi fflagiau du lan, mwy o faneri a pharhau gyda’r parti ar y to. Cafodd cerddoriaeth ei chwarae gan gefnogwyr gyferbyn ac yn dilyn hynny bu band lleol, Inconsiderate Parking yn chwarae am oriau gyda phobl yn dawnsio yn y stryd.”
Mae’r Gremlins yn dweud bod nifer yn eu cefnogi gan gynnwys artistiaid lleol ac anarchwyr.
“Wrth i ni wynebu’r penwythnos rydyn ni cryfhau ac yn atgyfnerthu’r diogelwch a byddwn ni yn cadw gwyliadwriaeth 24 awr y dydd,” meddai llefarydd y Gremlins.