Mae adeiladwr wedi ei ganfod yn euog o ddynladdiad, ar ôl i wal frics gwympo ar ben merch tair oed.

Roedd Meg Burgess ar ei ffordd adref pan ddaeth y wal i lawr am ei phen ym mis Gorffennaf 2008.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd y barnwr Merfyn Hughes wrth George Collier, sy’n 49 oed ac yn dod o Fae Cinmel, y bydd yn wynebu cyfnod yn y carchar.

Bydd George Collier yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae cwmni George Collier, Parcol, wedi ei gyhuddo o droseddau iechyd a diogelwch.

Clywodd y llys gan yr erlynydd fod esgeulustod George Collier wedi arwain at farwolaeth y ferch.

Dywedodd George Collier mai wal mewn gardd oedd hi.

Ychwanegodd yr erlynydd y dylai Collier fod wedi sylweddoli’r perygl y gallai’r wal ei achosi.