Simon Thomas
Mae dau Aelod Cynulliad blaenllaw wedi beirniadu cynghorydd lleol yn Llanelli am ei sylwadau am gymuned Bwylaidd y dref.

Mewn cyfarfod cyngor, dywedodd y cynghorydd Llafur, Keri Thomas, sy’n gwasanaethu ward Tyisha, fod Pwyliaid yn gyfrifol am broblemau yfed ar y strydoedd.

Dywedodd y cynghorydd: “Beth bynnag yw’r enw diwylliannol amdano fe, rwy’n wynebu problemau gyda phobl Bwylaidd.”

Gofynnodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas am drafodaeth ar y mater, gan ei fod yn teimlo bod sylwadau’r cynghorydd “wedi tanseilio gwaith Rhwydwaith Amlddiwylliannol Llanelli”.

Ychwanegodd: “Mae gan Lanelli nifer enfawr o bobl Bwylaidd sydd wedi mynd yno i weithio, ac mae nifer ohonyn nhw yn gweithio.”

‘Cwbl warthus’

Dywedodd Simon Thomas mewn datganiad: “Roedd sylwadau’r Cynghorydd yn gwbl warthus.

“Ar ôl siarad gyda thrigolion lleol yn Llanelli oedd wedi mynychu’r cyfarfod teimlaf fod yn rhaid codi’r mater gyda’r Gweinidog Cyfartaledd.

“Dylai’r Cynghorydd yma dynnu ei sylwadau nôl, mae’n rhaid i unrhyw gynghorydd gynrychioli pawb yn ei ardal. Os nad yw’n fodlon ymddiheuro mae’n rhaid i’r Blaid Lafur a Chyngor Sir Gâr ei ddisgyblu am ei sylwadau.

“Rydw i yn ystyried cyfeirio’r mater yma at bwyllgor safonau Cyngor Sir Gâr.”

‘Pryder difrifol’

Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am gydraddoldeb, Jane Hutt: “Mae hwn yn bryder difrifol i fi fel Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am gydraddoldeb.

“Rydym yn canmol ein hamrywiaeth. Rwyf wedi ymweld â Llanelli sawl gwaith, lle rwyf wedi cwrdd â chymunedau amlddiwylliannol ac aml-ethnig fywiog, sydd mynd i’r afael â phob math o faterion cymdeithasol yn y gymuned.

“Bydd gwersi wedi cael eu dysgu o ganlyniad i hyn. Byddwn i’n disgwyl y bydd awdurdodau lleol, sydd â dyletswydd bellach i wneud rhai dyletswyddau cydraddoldeb penodol, yn croesawu’r cyfleoedd i hyrwyddo amrywiaeth a dealltwriaeth, yn ogystal â chydlyniad cymunedol, sef yr hyn yw’r mater hwn yn y bôn.”

Dywedodd y cynghorydd Keri Thomas wrth Golwg360: “Y cyfan rwy am ddweud yw fy mod i wedi cynrychioli’r ward am flynyddoedd lawer. Mae’r cenedlaetholwr Simon Thomas wedi cynrychioli Ceredigion, lle collodd ei swydd, ac yna’r ardal yma.”