Mae drama sy’n adrodd hanes Cymdeithas yr Iaith yn cael ei darlledu ar y We nos Sul.

Cafodd I’r Gad ei hysgrifennu gan Angharad Tomos, Bryn Fôn ac Anna Fôn i gofnodi hanner can mlwyddiant y Gymdeithas eleni. Cafodd ei pherfformio gan Gwmni Bach ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandŵ, yn ogystal ag yn Llanllyfni a Chaerdydd, ac mae cyfle i’w gweld hi eto ar Sianel 62 nos Sul am wyth.

Bu Sianel 62 yn darlledu’n wythnosol dan ofal Cymdeithas yr Iaith ers ei sefydlu ym mis Chwefror, ond mae hi’n cael ei throsglwyddo i ddwylo gwirfoddolwyr ac yn mynd i ddarlledu unwaith y mis, gyda pherson gwahanol yn gyfrifol am bob darllediad misol.

Dywedodd Lleucu Meinir, sy’n gyfrifol am ddarllediad nos Sul, fod hi’n “wych y bydd yr holl bobol na chafodd gyfle i weld i’r Gad yn y Steddfod yn cael ei gweld nos Sul.

“Gobeithio bydd rhywbeth at ddant pawb yn y darllediad nos Sul, gan y bydd hefyd fideo fer emosiynol o ryddhau Jamie Bevan o’r carchar, eitem am heddychiaeth gan Guto Prys ap Gwynfor, Mererid Hopwood a Tudur Dylan, heb anghofio’r eitemau ysgafnach a digon o gerddoriaeth Cymraeg.”