Kayleigh Buckley a'i merch Kimberley
Mi fydd Comisiwn Cwynion Annibynnol o’r Heddlu yn ymchwilio’r cyswllt rhwng plismyn Heddlu Gwent a theulu cyn tân mewn tŷ yng Nghwmbrân yn oriau mân bore Mawrth.

Bu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a’i wyres chwe mis oed Kimberley yny tân yn eu tŷ yn Tillsland, Coed Efa.

Roedd Kayleigh newydd roi genedigaeth i efeilliaid ac yn dal i ddod dros farwolaeth un o’r merched yn fuan ar ôl iddi gael ei geni.

Mae dyn 27 oed o ardal Manceinion, y credir oedd yn dad i’r efeilliaid, yn cael ei holi gan yr heddlu.

Asesiad

Yn dilyn asesiad o amgylchiadau cyswllt yr heddlu gyda’r teulu mae’r Pwyllgor Cwynion Annibynnol o’r Heddlu wedi penderfynu cynnal ymchwiliad annibynnol.

“Bydd ein ymchwiliad, sydd yn ei ddyddiau cynnar, yn drylwyr wrth edrych ar gyswllt gyda’r heddlu cyn yr hyn ddigwyddodd fore Mawrth,” meddai Tom Davies, Comisiynydd y Pwyllgor Cwynion Annibynnol.