Mae’r banciau, cwmnïau yswiriant a chwmnïau ariannol eraill yn twyllo pob cartref yng ngwledydd Prydain o £430 y flwyddyn.

Dyna gasgliad adroddiad i’r Blaid Lafur sy’n amcangyfrif bod cam-werthu, costau cudd a diffyg cystadleuaeth yn costio £11 biliwn y flwyddyn.

Honnir fod pobol ar gyflogau is yn talu tua £1,289 yn fwy am nwyddau a gwasanaethau na’r cyfoethog – oherwydd nad ydyn nhw’nj medru manteisio ar ddisgownts am bethau fel talu biliau trwy ddebyd uniongyrchol.

Mae Ysgrifennydd Busnes yr wrthblaid wedi croesawu cynnyws yr adroddiad.

“Yn dilyn llu o sgandalau sydd wedi niweidio hyder cwsmeriaid – boed yn unigolion ac yn fusnesau – mae angen i ni newid rheolau’r gêm er mwyn rhoi stop ar bobol yn cael telerau sâl, adfer ffydd a chefnogi busnesau cyfrifol,” meddai Chuka Umunna.