Leanne Wood
Mae Cadeirydd Plaid Cymru wedi wfftio’r honiadau mai pyped yn cael ei chynnal gan bobol eraill ydy Leanne Woond.

Yn dilyn cynhadledd y Blaid wythnos yn ôl bu rhai’n holi pa mor ddylanwadol yw Adam Price o fewn yr arweinyddiaeth.

Ond yn ôl Helen Mary Jones yr Arweinydd sy’n gwysgo’r trowsus ac mae’n gwbwl anghywir i bobol feddwl fel arall.

“Os ydyn nhw yn credu hynny dydyn nhw ddim yn ‘nabod Leanne. A dw i’n nabod hi yn dda iawn ers blynyddoedd,” meddai’r Cadeirydd.

“Mae hi yn arweinydd sydd yn gwrando, sydd yn cymryd cyngor lot o bobl eraill, yn cynnwys fi fel Cadeirydd, yn cynnwys Rhuanedd Richards fel Prif Weithredwr. Ond yn y diwedd hi sydd yn penderfynu. Ac mae’r ffaith bod hi’n gwrando ar leisiau, a lleisiau gwahanol tu fewn i’r Blaid, yn gryfder yn fy marn i.”

Leanne yn apelio i’r Cymoedd…a’r criw arferol hefyd

Yn ôl Cadeirydd y Blaid mae Leanne Wood wedi llwyddo i apelio at gefnogwyr selog a phleidleiswyr newydd, yn ystod ei chwe mis cynta’ wrth y llyw.

Yn y gorffennol mae’r di-Gymraeg wedi bod yn amheus o fwrw croes i’r Blaid, medd Helen Mary Jones.

“Mae wedi bod yn anodd weithiau iddyn nhw ddeall mai plaid iddyn nhw yw hi,” meddai.

“Gyda Leanne o’r Rhondda yn arwain y Blaid mae’n gwbl, gwbl glir bod hi yn blaid ar gyfer Cymru gyfan.

“Ac mae hefyd gydag apêl cryf i’n cefnogwyr traddodiadol ni trwy ei safiad hi dros yr iaith, er enghraifft, sydd wedi bod yn safiad dros flynyddoedd hir iawn.”