Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fabi a dau oedolyn farw mewn tân mewn tŷ yng Nghwmbran yn ystod oriau man y bore ma.
Dywed Heddlu Gwent bod y dyn 27 oed o ardal Manceinion wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Credir mai Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh Buckley, 17, a’i wyres chwe mis oed Kimberley Buckley fu farw yn y tân ond dydyn nhw ddim wedi cael eu hadnabod yn swyddogol hyd yn hyn, meddai’r heddlu.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 3.30yb i’r tŷ yn Tillsland yng Nghoed Efa. Cafodd cyrff y tri eu darganfod wrth i ddiffoddwyr tân geisio diffodd y fflamau.
Mae’r gwasanaeth tân a’r heddlu wedi dechrau archwilio’r adeilad ac maen nhw’n gwneud ymholiadau o dŷ i dŷ yn yr ardal.
‘Sioc ofnadwy’
Mae rhai o’r cymdogion ar y stad o dai wedi bod yn mynegi eu sioc heddiw.
Dywedodd Sandra Gough, 61, sy’n byw ger y tŷ, ei bod yn credu mai’r rhai fu farw oedd merch 17 oed oedd yn fam i un, ac wedi bod yn feichiog gyda gefeilliaid, a’i mam, oedd tua 46 oed.
Ychwanegodd un o’r cymdogion eraill Colin Haggett, 69, bod marwolaeth y tri wedi bod yn “sioc ofnadwy” a bod y gymuned wedi tristau o glywed y newyddion.
Mae’r heddlu wedi cau rhan o’r stad tra bod eu hymchwiliad yn parhau.