Fe fydd haul braf yn tywynnu dros y mwyafrif o’r Deyrnas Unedig dros y penwythnos, wrth i’r haf gwlypaf ers 1912 ddod i ben.
Mae disgwyl rhywfaint o law yng Nghymru brynhawn yfory, ond mae proffwydi’r tywydd yn rhagweld tywydd poeth i’r mwyafrif.
Fe allai’r tymheredd gyrraedd 27C mewn rhai mannau, medden nhw.
Ond ni fydd y tywydd poeth yn parhau, a mae disgwyl mellt a tharannau yr wythnos nesaf.
“Fe fydd y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr yn gynnes ac yn sych heddiw,” meddai Bill Paybe, proffwyd tywydd MeteoGroup.
“Y disgwyl yw y bydd y tywydd ar draws Cymru a Lloegr yn cyrraedd tua 20C neu’n uwch.”
Yfory fe fydd tywydd cymylog yn symud yn araf bach o gyfeiriad y gorllewin ar draws Cymru, meddai.
Ond fe fydd yn ddiwrnod poeth arall yn y rhannau rheini o’r wlad a fydd yn gweld yr haul.
“Daw gwasgedd isel o gyfeiriad y gorllewin a glaw yn ei sgil yn y prynhawn,” meddai. “Fe fydd ychydig yn fwy gwyntog ledled y wlad.”
Bydd yr hydref yn dechrau o ddifri’ yr wythnos nesaf wrth i gawodydd glaw, gwynt, a mellt a tharannau sgubo ar draws y wlad, meddai.
Ddydd Iau a Gwener fydd y mwyaf stormus.