Mae’n bosibl mai dyma fydd diwrnod llawn olaf Cheryl Gillan yn ei swydd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mae sibrydion yn dew am dro ar fyd yn Nhŷ Gwydir ac y bydd David Cameron yn penodi Ysgrifennydd Cymru newydd pan fydd yn ad-drefnu ei gabinet.

Dyma fydd yr ad-drefnu cyntaf ers i’r Glymblaid ddod i rym yn 2010, ac fe all gael ei gyhoeddi yfory.

Mae golygydd gwefan ddylanwadol Conservative Home, Tim Montgomerie, wedi galw am benodi Aelod Seneddol o Gymru yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan ddweud fod angen rhywun sy’n “rhydd o’r ymyrraeth o orfod cynrychioli etholaeth yn Lloegr.”

Cafodd Cheryl Gillan ei geni yng Nghaerdydd ond mae’n cynrychioli etholaeth Chesham ac Amersham.

Mae Aelod Seneddol Basingstoke, Maria Miller, hefyd yn Gymraes sy’n cynrychioli etholaeth yn Lloegr, ac mae si y bydd hi’n cael ei dyrchafu o’r Adran Gwaith a Phensiynau i swydd yn y Cabinet.

Nicholas Edwards oedd yr Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol diwethaf i gynrychioli etholaeth Gymreig, yn yr 1980au, ac mae aelod arall sy’n cynrychioli Sir Benfro – Stephen Crabb o Breseli Penfro – yn cael ei grybwyll fel olynydd i Cheryl Gillan, os y bydd hi’n gadael y cabinet.

Enwau posib eraill yw Jonathan Evans, AS Gogledd Caerdydd, a  David Jones, AS Gorllewin Clwyd.