Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad ar ddau berson yn Llandudno.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Ffordd Dulyn am hanner dydd heddiw.

Cafodd dyn a dynes eu cludo i’r ysbyty ac maen nhw mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu wedi cau’r ffordd tra bod eu hymchwiliadau’n parhau.