Simon Richardson
Clywodd Llys y Goron Casnewydd heddiw bod ffermwr, sydd wedi ei gyhuddo o fod mewn gwrthdrawiad â beiciwr Paralympaidd, wedi yfed dwywaith yn fwy na’r lefel cyfreithiol o alcohol.
Roedd Simon Richardson, 44, a enillodd fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing, yn beicio ar hyd yr A48 ym Mro Morgannwg ym mis Awst y llynedd pan honnir iddo gael ei daro gan fan y ffermwr Edward Adams.
Mae Adams, 60, wedi ei gyhuddo o yrru i ffwrdd ar ôl y gwrthdrawiad, i’w fferm ger y Bontfaen.
Dywedodd yr erlynydd Jane Rowley na ddylai Edward Adams fod yn gyrru am ei fod dros y terfyn yfed a gyrru, ac am fod ei olwg yn wael.
Clywodd y llys bod Adams wedi ceisio cuddio ei fan Peugeot wrth ymyl ei gartref yn dilyn y gwrthdrawiad.
Roedd Simon Richardson yn hyfforddi ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Llundain pan gafodd ei daro o’r tu ôl gan y fan.
Mae Adams yn gwadu cyhuddiad o yrru’n beryglus. Ond mae wedi cyfaddef yfed a gyrru ac o beidio ag aros yn dilyn damwain.
Mae’r achos yn parhau.