Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M48 yn Sir Fynwy.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar y ffordd rhwng Magwyr a Chas-Gwent tua 10.20 y bore ma.
Dywedodd Heddlu Gwent fod y ddwy ffordd gerbydau ar gau a bod dargyfeiriadau mewn lle.
“Mae’r heddlu yn mynychu damwain ffordd angheuol ar ffordd ddwyreiniol yr M48 rhwng Magwyr a Chas-gwent,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.
“Bu farw dyn o ganlyniad i’r ddamwain.”