Mae Ioan Gruffudd wedi galw am bleidlais ‘Ie’ mewn fideo Cymraeg arbennig ar gyfer Golwg 360.
Yn y fideo mae’n annog pobol Cymru i bleidleisio o blaid rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol yn y refferendwm ar 3 Mawrth.
“Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae’r Cynulliad wedi tyfu’n raddol mewn statws a hyder,” meddai.
“Ond mae’r system sydd gyda ni ar hyn o bryd ar gyfer creu cyfreithiau newydd sy’n effeithio ar Gymru yn unig yn un araf a chymhleth.
“Mae gormod o arian a gormod o amser yn cael ei wastraffu ar fynd drwy rwystrau diangen. Er enghraifft, mae wedi cymryd dros dair blynedd i basio cyfraith newydd fydd yn cefnogi gofalwyr a’r rheini sydd yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl.
“Tair blynedd! Nawr dyw hwn ddim yn system effeithiol iawn o lywodraethu. Mae’n hen bryd i ni symleiddio’r system.
Llun o Ioan Gruffudd gan Terry Morris
“Fe fydd pleidlais ‘Ie’ ar y 3ydd o Fawrth yn symud Cymru ymlaen ac yn cyflymu’r system yma o wneud penderfyniad a galluogi Aelodau’r Cynulliad i fwrw ati â’r gwaith.
“Fe fydd y refferendwm yma yn anfon neges gref ynglŷn â sut yr ydym ni’r Cymry yn teimlo ynghylch ein Cynulliad ni.
“Does dim rhaid i lywodraethau datganoledig yr Alban na Gogledd Iwerddon ofyn caniatâd San Steffan i wneud cyfreithiau a ddylai Cymru ddim gorfod chwaith.
“Dw i o’r farn y dylai cyfreithiau sy’n effeithio ar Gymru yn unig gael eu creu yng Nghymru.
“Gobeithio eich bod chi hefyd. Mae’n gwneud synnwyr llwyr. Pleidleisiwch ‘Ie’ ar y 3ydd o Fawrth.”