Mae dyn o Geredigion sy’n cymryd rhan yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd wedi dweud ei fod wedi gorfod arwyddo cytundeb i beidio datgelu cynnwys y seremoni.
“Dy’n ddim yn cael datgelu dim byd,” meddai John Alun Evans, sy’n dawnsio yn y seremoni.
“Mae rihyrsal gyda ni heno a mae disgwyl tua 60,000 o dorf yma ond mae’r gynulleidfa hefyd wedi cael eu hannog i gadw’r gyfrinach,” meddai’r brodor o Aberaeron sydd bellach yn byw yn Pimlico, Llundain.
Dywedodd fod y wasg wedi bod yn dyfalu am gynnwys y seremoni agoriadol a’i fod wedi sylwi eu bod nhw wedi cael llawer o bethau’n anghywir.
Mae’r trefnwyr yn disgwyl i 4 biliwn o bobol wylio’r seremoni’n fyw ar draws y byd. Bydd yn dechrau am 9 ein hamser ni, a bydd y pair Olympaidd yn cael ei gynnau yn ystod y seremoni i ddynodi dechrau swyddogol y Gemau, er bod y cystadlu Olympaidd wedi dechrau brynhawn yma yng Nghaerdydd gyda’r gêm bêl-droed rhwng merched Prydain a Seland Newydd.
Despret am ddynion i ddawnsio
Dywed John Alun Evans fod y perfformwyr wedi bod yn ymarfer yn gyson ar gyfer y seremoni.
“Ers y Pasg ry’n ni wedi bod yn ymarfer ar benwythnosau yn llefydd fel Bow a Dagenham, ac wythnos yma ry’n ni’n ymarfer bob dydd yn y stadiwm Olympaidd yn Stratford.
“Sai wedi dawnsio ers dyddiau dawnsio gwerin yn ysgol ond dwi’n credu ro’n nhw’n despret am ddynion i gymryd rhan.”
Mae John Alun Evans yn gweithio fel cyfieithydd yng nghanol Llundain, a dywed mai trigolion y ddinas yw’r bobol sy’n cymryd rhan a bod naws ryngwladol i’r criw.
“Mae pobol yn cymryd rhan o bod rhan o’r byd, fel mae Llundain.”
“Mae yna Gymraes o Sir Gaerfyrddin yn yr un adran ddawnsio â fi, hefyd,” meddai.
Dywed John Alun Evans fod pobol Llundain ar y cyfan yn bositif am ymweliad y Gemau Olympaidd, ond bod rhai’n pryderu am effaith y Gemau ar drafnidiaeth yn y ddinas.