Mae lori olew wedi dymchwel ar yr A48 yng Nghasnewydd.
Mae’r ffordd wedi ei gau rhwng pont Brynbuga a Ffordd Nash.
Ni chafodd y gyrrwr ei anafu.
Mae Gwasanaeth Achub De Cymru wedi anfon 14 injan dân yno toc cyn 7.50am ar ôl adroddiadau fod y cerbyd ar dân.
Mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru a’r heddlu hefyd yn bresennol.