Carwyn Jones
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, heddiw fod gwersi angen eu dysgu o farwolaeth bachgen a fu farw dros 20 mlynedd yn ôl.

Bu farw Robbie Powell, 10 oed, o Ystradgynlais yn 1990 o glefyd Addison’s.

Ni chafodd profion eu gwneud i adnabod yr afiechyd prin ond sydd â modd ei drin.

Dywedodd Carwyn Jones yn y Cynulliad y prynhawn ma fod ymchwiliad annibynnol oedd  wedi ei drefnu ganddo ym mis Rhagfyr 2010 wedi “atgyfnerthu pa mor drasig oedd y digwyddiad yma.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, “Rwy’n gobeithio y bydd rhieni Robbie Powell yn cael rhywfaint o gysur o wybod ein bod ni’n benderfynol  i sicrhau fod y GIG yn mynd i ddysgu a gweithredu yn sgil canfyddiadau’r adroddiad yma.”

Ymddiheuriad

Mae rhieni Robbie Powell wedi mynnu fod rhywun wedi ceisio cuddio’r wybodaeth ynghylch ei farwolaeth.

Credai ei dad, William Powell, fod cofnodion meddygol ei fab wedi eu newid rhag dangos camgymeriadau’r doctoriaid a bod ymchwiliad gan yr heddlu yn dilyn hynny wedi cael ei ffugio.

Mae William Powell wedi bod yn ymgyrchu ers 20 mlynedd am gael ymchwiliad cyhoeddus i’r hyn aeth o’i le.

“Mae rhieni Robbie Powell yn haeddu ymddiheuriad,” meddai Carwyn Jones.

“Er bod ei farwolaeth wedi digwydd yn 1990, ymhell cyn sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru, ar ran Llywodraeth Cymru rwy’n ymddiheuro i Mr a Mrs Powell am y ffaeleddau yn y system wnaeth arwain at farwolaeth Robbie, yn ogystal â’r esboniadau annigonol a gynigiwyd i’r teulu maes o law.”

Cefndir

Mynnodd Carwyn Jones adroddiad i’r mater gan anwybyddu galwadau cyson am ymchwiliad cyhoeddus.

Cafodd cwest i farwolaeth Robbie Powell ei gynnal ym mis Chwefror 2004 oedd yn dangos ei fod wedi marw o achosion naturiol o ganlyniad i esgeulustod.

Cafodd Robbie Powell  ei weld gan 5 feddyg teulu ar saith achlysur yn yr wythnosau yn arwain at ei farwolaeth.