Yvonne Fletcher
Mae ditectifs gwrth-defysgaeth Scotland Yard wedi teithio i Libya heddiw fel rhan o’u hymchwiliad i lofruddiaeth y blismones Yvonne Fletcher.
Roedd dau o swyddogion Scotland Yard wedi hedfan i Tripoli ar ôl i’r awdurdodau yno ofyn iddyn nhw ddychwelyd i Libya mor fuan â phosib.
Mae disgwyl iddyn nhw gwrdd â swyddogion i barhau gyda’u trafodaethau ynglŷn chyd-weithio yn ystod yr ymchwiliad.
Cafodd Yvonne Fletcher ei lladd tu allan i lysgenhadaeth Libya yn Llundain yn ystod protest yn 1984.
Cafodd ei saethu’n farw gan rywun tu mewn i’r adeilad.