Lesley Griffiths
Mae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi ymosod yn chwyrn ar ei gwrthwynebwyr “am lusgo enw da academydd blaenllaw drwy’r baw” yn dilyn honiadau fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio lliwio  adroddiad am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Roedd Lesley Griffiths yn wynebu cwestiynau yn y Cynulliad y prynhawn yma, ynglŷn â pha mor annibynnol oedd yr adroddiad yn ymwneud ag ad-drefnu o fewn ysbytai.

Mae cyfres o negeseuon e-bost wedi dod i ddwylo’r BBC sy’n awgrymu bod swyddogion Llywodraeth a byrddau iechyd wedi ymyrryd yn yr adroddiad.

Dywedodd Lesley Griffiths, “Gadewch i ni gyd fod yn glir ar hyn, mae hyn yn rhagrith gwleidyddol o’r math gwaethaf a dylai unrhyw wrthwynebydd sy’n haeddiannol o’r enw fod â chywilydd.

“Mae llusgo enw da’r Athro Marcus Longley drwy’r baw  fel hyn, a’i gyhuddo o ymddwyn yn amhriodol yn hollol annerbyniol.”

‘Tryloyw’

Dywedodd Lesley Griffiths ei bod hi’n croesawu’r  penderfyniad i ryddhau’r dogfennau yn gyhoeddus.

“Doedd gen i ddim byd i wneud yn uniongyrchol â ffurfiant yr adroddiad yma,” meddai’r Gweinidog Iechyd.

“Does dim tystiolaeth chwaith i gredu bod fy swyddogion wedi dylanwadu neu newid yr adroddiad mewn unrhyw ffordd.”

Dywedodd bod y broses wedi bod yn hollol dryloyw.

‘Cyd-gynllwynio’

Ond dywedodd y llefarydd iechyd ar ran y Ceidwadwyr, Darren Millar yn y Senedd prynhawn ma bod y negeseuon e-bost yn tanseilio hygrededd yr adroddiad, ac mae’n honni bod awdur yr adroddiad a’r Llywodraeth wedi bod yn “cyd-gynllwynio” i geisio lliwio’r adroddiad.

Roedd ei sylwadau wedi codi gwrychyn y Prif Weinidog Carwyn Jones ac fe ddywedodd y byddai Darren Millar yn “annoeth” i ailadrodd ei honiadau tu allan i’r Siambr.