Mae parafeddyg o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dathlu ar ôl derbyn gwobr Dysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Gymraeg o fewn Gofal Iechyd eleni.
Cipiodd Alan Thomas, parafeddyg yn Hwlffordd y wobr yn y categori dros dwy flynedd yng Nghynhadledd a Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd i ddathlu arfer da er mwyn cryfhau gwasanaethau Cymraeg o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dywedodd Alan, sydd wedi gweithio i’r gwasanaeth ers dros 20 mlynedd: “Rwyf wrth fy modd mod i wedi ennill y wobr. Bum yn dysgu Cymraeg ers 13 o flynyddoedd nawr ac rwyn awyddus i barhau.
“Rwyn gweld sut mae siarad gyda’r claf yn ei iaith gyntaf yn ei helpu i ymlacio ac rwyn awyddus i gynnig y gofal gorau i’n cleifion. Hefyd, mewn ardal wledig mae’n gymorth mawr gallu deall cyfarwyddiadau i leoliadau anghysbell yng nghefn gwlad”, eglurodd Alan, sy’n anelu i barhau â’i addysg Cymraeg trwy astudio ar gyfer gradd.
“Rwyn gweld pa mor bwysig yw darparu gwasanaeth dwyieithog ac rwyn annog eraill i ddysgu’r iaith hefyd,” ychwanegodd.
Clywodd y gynhadledd undydd gan amrywiol siaradwyr gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a Chomisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Elwyn Price-Morris, Prif Weithredwr, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Hoffwn longyfarch Alan ar ran yr Ymddiriedolaeth ar ei lwyddiant. Rydym yn annog gweithlu dwyieithog er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu’r gwasanaeth o’r ansawdd gorau i’n cleifion.”