Ed Miliband
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dangos nad toriadau llym y glymblaid yn San Steffan yw’r unig ffordd ymlaen, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband.
Roedd Ed Miliband yn siarad gydag aelodau o’i blaid yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd neithiwr.
“Maen nhw’n dweud nad oes dewis arall. Ond mae Carwyn Jones [Prif Weinidog Cymru] wedi dangos fod dewis arall,” meddai.
“Mae yna ddewis arall i gynyddu ffioedd dysgu, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a gwerthu coedwigoedd fel y mae Llywodraeth San Steffan yn ei wneud.
“Mae Cymru yn gallu arwain y ffordd a bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer gweddill y wlad. Mae yna bethau sydd wedi eu gwneud gyntaf yng Nghymru sydd erbyn hyn yn cael eu gwneud mewn llefydd eraill.”
‘Ddim yn gwneud synnwyr’
Ychwanegodd ei fod o blaid pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar ragor o bwerau deddfu i Gymru.
“Dyw hyd yn oed y Ceidwadwyr ddim am fynd yn ôl i’r hen ffordd o redeg Cymru o Lundain,” meddai.
“Mae’r awgrym y dylai Carwyn a gweddill Llywodraeth y Cynulliad orfod gofyn caniatâd Llundain cyn creu deddfau sy’n effeithio ar Gymru yn unig ddim yn gwneud synnwyr.
“Dyna pam fy mod i o blaid pleidlais ‘Ie’. Ac mae’n bwysig bod y bleidlais ‘Ie’ hefyd yn hwb gyfer yr etholiadau ym mis Mai.”