Bydd “nifer fach” o apwyntiadau yn cael eu gohirio yn rhai o ardaloedd de Cymru o ganlyniad i streic gan Gymdeithas Feddygol Prydain ddydd Iau.
Yn dilyn y diwrnod o weithredu gan y BMA bydd rhai apwyntiadau ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu gohirio.
Ddydd Iau, bydd meddygon sy’n aelodau o’r BMA yn darparu gofal brys ac argyfwng yn unig.
“Diogelwch ein cleifion yw ein prif flaenoriaeth ac rydym wedi gwneud pob ymdrech i leihau’r effaith ar eu gofal,” meddai Dr Sue Fish, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
“Bydd gwasanaethau argyfwng yn parhau i gael eu cynnal ond, yn anffodus, bu’n rhaid gohirio rhai apwyntiadau oedd wedi’u cynllunio. Rydym wedi cysylltu â’r bobl sydd wedi’u heffeithio, ac aildrefnu eu hapwyntiadau fel blaenoriaeth.”
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi datgan y byddent yn “cysylltu â’r cleifion hynny sydd wedi’u heffeithio er mwyn rhoi gwybod iddynt fod eu hapwyntiad wedi’i ohirio.”
Aildrefnu ‘cyn gynted â phosib’
Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod adrannau argyfwng ar agor yn ôl yr arfer ond “atgoffir cleifion yn garedig y dylent ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mewn sefyllfa ddifrifol iawn, neu sy’n bygwth bywyd.”
“Gofynnir yn garedig i’r bobl hynny nad ydym wedi cysylltu â nhw fynd i’w hapwyntiad yn ôl yr arfer.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd eu bod yn cydweithio â staff clinigol gyda’r nod o aildrefnu apwyntiad sydd wedi’u gohirio “cyn gynted â phosibl.”
“Cynghorir hefyd i aelodau’r cyhoedd ymgyfarwyddo â threfniadau eu meddygfa ar gyfer dydd Iau 21 Mehefin,” meddai’r datganiad.
Bydd meddygfeydd ledled y tair sir ar agor ar gyfer cleifion achosion brys, ond, ni fydd apwyntiadau arferol nad ydynt yn rhai brys ar gael.
“Os bydd angen gofal iechyd heb ei gynllunio arnoch ddydd Iau, fe’ch cynghorir i gysylltu’n uniongyrchol â’ch meddygfa a byddant yn gallu rhoi cyngor i chi. Fel arall, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 i gael cyngor, ond mewn sefyllfa sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999 bob amser.”