Mae un o orsafoedd trên mwyaf di-raen Cymru wedi cael buddsoddiad o filiynau o bunnau ac yn cael ei hail-agor heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru a Network Rail wedi buddsoddi dros £3m yr un yng ngorsaf Abertawe ar ôl blynyddoedd o gwyno gan deithwyr am yr hen orsaf. Mae £7.6 wedi cael ei wario’n gyfan gwbl ar yr orsaf newydd sy’n cael ei hagor heddiw gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth yng Nghymru.

Mae’r orsaf newydd yn fwy golau, yn llai gwyntog diolch i furiau gwydr, ac mae iddi fynedfa newydd. Mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau dal tacsi i bobl anabl a phalmant botymog i gynorthwyo pobol ddall i wybod pa gyfeiriad i fynd.

“Mae Gorsaf Abertawe yn chwarae rôl bwysig yn llwyddiant a delwedd y ddinas” meddai Carl Sargeant.

“Mae’r datblygiad yma, sy’n cyd-fynd gydag ailwampio gorsaf fysys y ddinas, yn darparu cyfleuster modern o’r safon uchaf ac mae’n fwy diogel na’r hen un ac yn haws myned mewn iddi.”

Mae 1.6m o deithwyr yn teithio trwy orsaf Abertawe bob blwyddyn a dywed rheolwr llwybrau Network Rail Mark Langman, y bydd y gwaith yn cael effaith fawr ar argraff gyntaf pobol o Abertawe.

“Bydd hi’n orsaf sy’n llawer mwy golau a chyffyrddus” meddai Mark Langman

“Rydym ni hefyd yn ychwanegu llinell wrth ochr y rheilffordd bresennol rhwng Abertawe a Thregŵyr, ac yn ailadeiladu pont reilffordd y Llwchwr gan ddod â mwy o wasanaethau posib i’r gorllewin o Abertawe rhoi hwb i fusnes yn y rhanbarth.”